26ain Tachwedd 2003

Cliciwch yma i weld lluniau o Ddiwrnod 1 SAND 2003

Bydd diwrnod 1 yn cynnwys digwyddiadau sy'n ymwneud â chymwysiadau Rhyngwyneb Porth Cyffredin (CGI) mewn Rhith-Realiti, Deallusrwydd Artiffisial, Gwyddoniaeth Feddygol ac enghreifftiau o ddelweddu'n cynorthwyo mewn ymchwil a lledaeniad gwyddonol, sy'n cynnwys:


9:15 Araith Agoriadol
  Bydd Andrew Davies, Gweinidog y Cynulliad Cenedlaethol dros Ddatblygu Economaidd a Chludiant yn annerch y gynhadledd.

9:30 Cyflwyniad i Ddiwrnodau Animeiddio Abertawe 2003
  Bydd Martin Capey, Pennaeth yr Ysgol Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, yn croesawu'r cynrychiolwyr i ddigwyddiad SAND 2003 ac yn cyflwyno trefn y dydd.

9:45 Delweddu Meddygol yn Primal Pictures
  Bydd Simon Barrick, Pennaeth Graffeg Primal Pictures, yn trafod sut mae'r cwmni wedi delio â phroblemau atgynhyrchu bod dynol cyflawn yn gywir mewn CG, gan gynnwys cyflwyniad i'r technegau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r modelau.

10:45 Coffi

11:30 Adran Ymchwil IBM: Delweddu Meddygol
  Bydd Peter Waggett o Adran Ymchwil Delweddu Meddygol IBM yn ymuno â ni yn SAND 2003 i drafod gwaith ymchwil a datblygu ei gwmni ym maes delweddu meddygol. Bydd mwy o wybodaeth am y sesiwn hon ar gael yn fuan.

12:30 Cinio a rhwydweithio

2:00 Gorffennol, Presennol a Dyfodol Rhith-realiti Meddygol
  Bydd yr Athro Nigel John, o Brifysgol Cymru, Bangor, yn cyflwyno trosolwg o sut y mae graffeg gyfrifiadurol a rhith-realiti ddatblygedig ar fin gwella amgylchedd gwaith meddyg yn sylweddol.

2:50 Hyfforddiant mewn Radioleg Ymyriadol: Rôl ar gyfer Rhith-Amgylcheddau
  Bydd Dr Derek Gould, o Ysbyty Brenhinol Lerpwl, yn trafod a fyddai rhith-amgylcheddau'n cynnig ateb ar gyfer hyfforddiant llawfeddygol a fyddai'n atal cleifion go iawn rhag ymwneud â'r gromlin ddysg RY gynnar.

3:40 Te

4:10 Addysgu Animeiddio Cyfrifiadurol i Israddedigion ac Ôl-raddedigion
  Bydd yr Athro John Vince, o Brifysgol Bournemouth, yn trafod y materion sy'n gysylltiedig ag addysgu animeiddio cyfrifiadurol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, gan ymdrin â phroblemau addysgu disgyblaeth sy'n newid yn barhaus. Fe fydd yn defnyddio croestoriad o waith animeiddio myfyrwyr yn ystod ei ddarlith.

5:00 Araith i Gloi
  Bydd Martin Capey, Pennaeth yr Ysgol Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, yn crynhoi'r diwrnod ac yn dweud wrthym beth y gallwn edrych ymlaen ato yn nigwyddiad yfory.

5:10 Cyfle i Rwydweithio a Dangos y Gorau o Ffresh
Byddwn yn dangos gwaith o'r gystadleuaeth Ffresh i fyfyrwyr ar gyfer delweddau symudol gyda'r nos ar Ddiwrnod 1. Dyma gyfle i weld gwaith animeiddio a fideo a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr ar draws Cymru.




Creu Perfformiad Credadwy (Gan ddefnyddio Maya)
Bydd Will Byles, Pennaeth CGI yn One, yn rhedeg y gweithdy animeiddio cymeriadau ymarferol hwn gan ddefnyddio Maya. Nod y gweithdy yw cynorthwyo animeiddwyr i greu perfformiadau credadwy ag amrywiaeth o wahanol fodelau.

Actio ar gyfer Animeiddwyr
Mae Ed Hooks, awdur 'Acting for Animators' (Heinemann 2000), wedi arloesi mewn gweithdai actio a grëwyd yn benodol ar gyfer anghenion animeiddwyr. Mae'r gweithdai hyn yn sesiynau ymarferol sy'n dysgu'r ddamcaniaeth actio mewn modd hwyliog, di-boen a defnyddiol.
 
Cyflwyniad i Flash MX
Yn y gweithdy hwn bydd David Le Grange, Darlithydd a Dylunydd ar ei liwt ei hun, yn cyflwyno animeiddiad mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar fector gan ddefnyddio Macromedia Flash MX. Bydd y cynadleddwyr yn gweithio drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau o animeiddio mewn Flash, ynghyd ag ennill dealltwriaeth o beth o'r rhaglennu a'r rhyngweithioldeb sy'n ymwneud â'r meddalwedd.