27 Tachwedd 2003

Cliciwch yma i weld lluniau o Ddiwrnod 2 SAND 2003

Bydd diwrnod 2 yn cynnwys digwyddiadau sy'n ymwneud â chymwysiadau CGI mewn Gêmau Cyfrifaduron, Hysbysebion a Chyfryngau Rhyngweithiol, gan gynnwys:


9:15
Cyflwyniad i Ddiwrnodau Animeiddio Abertawe 2003 - Diwrnod 2
Bydd Martin Capey, Pennaeth yr Ysgol Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, yn croesawu'r cynrychiolwyr i ddigwyddiad SAND 2003 ac yn cyflwyno trefn y dydd.

9:30
O Fiomechaneg i Ryfelwyr Mecanyddol - MoCap yn Artem Digital
Bydd Richard Hince, Pennaeth y Stiwdio yn un o'r stiwdios dal symudiad arweiniol Artem Digital, yn rhoi cyflwyniad a fydd yn rhoi mewnwelediad i elfennau cyffrous eu gwaith a'u hymchwil. Fe fydd yn trafod sut a pham y mabwysiadwyd technoleg MoCap, y mae ei gwreiddiau ym miomechaneg, gan y diwydiant adloniant, a pham y mae egwyddorion biomecanegol yn dal i fod mor bwysig.

10:20
Cyflwyniad i Jester Interactive
Bydd Clark Evans, Cyfarwyddwr Masnachol Jester Interactive, yn esbonio pam y mae Jester o'r farn ei bod yn werth ailddatblygu'r hen gemau clasurol ac yn cyflwyno eu meddalwedd cyffrous Music Creation, sy'n enwog am fod yn un o'r teitlau Playstation mwyaf blaengar a gwreiddiol sydd ar gael.

11:10
Coffi

11:40
Image Metrics and Computer Vision:
Creating new animated content from the real world
In this talk, Nick Perrett will discuss how Image Metrics is beginning to apply its core computer vision technology to facial animation with companies like EA & Sony Computer Entertainment and what the future for character animation and animated content based on computer vision techniques will look like.

12:30
Cinio a rhwydweithio

2:00
Integreiddio Busnes ar gyfer Gemau IBM
Bydd cyflwyniad gan Rob Smith o IBM yn esbonio sut y bydd gemau ar-lein yn troi'r diwydiant adloniant rhyngweithiol yn amgylchedd e-fusnes swyddogaethol gyfoethocach, sef llif refeniw y dyfodol. Bydd Rob yn arddangos y dechnoleg hon trwy weithio mewn fersiwn o Quake II a addaswyd.

2:50
Te

3:10
Ymgyflwyno i'r Diwydiant
Bydd Shelley Page, Cynrychiolydd Ewropeaidd DreamWorks Feature Animation, yn trafod yn SAND gyda Bruce Steele, Cyfarwyddwr Effeithiau Gweledol Glassworks, ynglyn â'r hyn y mae cwmnïau animeiddio yn chwilio amdano gan animeiddwyr ar eu liwt eu hunain a myfyrwyr sydd am ymuno â'r diwydiant.

4:10 Cyflwyniad i Glassworks, Llundain
  Bydd Bruce Steele, Cyfarwyddwr Effeithiau Gweledol Glassworks, yn trafod gwaith y stiwdio hwnnw yn Soho, sy'n arbenigo mewn animeiddio ac effeithiau digidol.

5:00 Araith i Gloi
  Bydd Martin Capey, Pennaeth yr Ysgol Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, yn crynhoi'r diwrnod ac yn dweud wrthym beth y gallwn edrych ymlaen ato yn nigwyddiad yfory.

5:10 Cyfle i Rwydweithio a Dangos y Gorau o Ffresh
Byddwn yn dangos gwaith o'r gystadleuaeth Ffresh i fyfyrwyr ar gyfer delweddau symudol gyda'r nos ar Ddiwrnod 2. Dyma gyfle i weld gwaith animeiddio a fideo a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr ar draws Cymru.





Creu Perfformiad Credadwy (Gan ddefnyddio Maya)
Bydd Will Byles, Pennaeth CGI yn One, yn rhedeg y gweithdy animeiddio cymeriadau ymarferol hwn gan ddefnyddio Maya. Nod y gweithdy yw cynorthwyo animeiddwyr i greu perfformiadau credadwy ag amrywiaeth o wahanol fodelau.

Actio ar gyfer Animeiddwyr
Mae Ed Hooks, awdur 'Acting for Animators' (Heinemann 2000), wedi arloesi mewn gweithdai actio a grëwyd yn benodol ar gyfer anghenion animeiddwyr. Mae'r gweithdai hyn yn sesiynau ymarferol sy'n dysgu'r ddamcaniaeth actio mewn modd hwyliog, di-boen a defnyddiol.