28 Tachwedd 2003

Cliciwch yma i weld lluniau o Ddiwrnod 3 SAND 2003

Bydd Diwrnod 3 yn cynnwys digwyddiadau yn ymwneud ag Animeiddio Cyfrifiadurol mewn Ffilm, Fideos Byr a Fideos Cerddoriaeth, gan gynnwys:


9:45 Cyflwyniad i Ddiwrnodau Animeiddio Abertawe 2003 - Diwrnod Tri
  Bydd Martin Capey, Pennaeth yr Ysgol Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, yn croesawu'r cynrychiolwyr i ddigwyddiad SAND 2003 ac yn cyflwyno trefn y dydd.

10:00 Industrial Light and Magic
  Bydd Willi Geiger, Cyfarwyddwr Technegol Blaen yn Industrial Light and Magic, yn rhoi cyflwyniad yn SAND2003 am brosiectau diweddar yr ymgymerwyd â nhw gan y stiwdio CGi enwog hon. Mae Willi wedi gweithio ar rannau o Terminator 3: Rise of the Machines a Star Wars Episode II: "Attack of the Clones". Mae'n gweithio ar Van Helsing ar hyn o bryd.

10:50 Coffi

11:20 Cyflwyniad gan Ed Hooks
  Bydd Ed Hooks, awdur Acting for Animators, yn rhoi cyflwyniad yn SAND2003, yn ogystal â chynnal ei weithdy arbenigol. Bydd copïau o lyfr Ed ar werth yn y digwyddiad, a bydd ar gael i'w drafod a llofnodi copïau yn ystod egwyliau yn y gynhadledd.

12:10 Detholiad Dreamworks o'r Gwyliau Ewropeaidd
  Bydd Shelley Page, Cynrychiolydd Ewropeaidd ar gyfer DreamWorks Feature Animation, yn dangos ei chasgliad o'r gwaith 3D newydd gorau o amgylch y byd, gan gynnwys 'Pfffirate', 'Otsu' a 'Louis' o Supinfocom.

1:00 Cinio a rhwydweithio

2:20 Cyflwyniad i Double Negative
  Bydd Martin Hill, o Double Negative, yn trafod gwaith diweddar y stiwdio gynhyrchu VFX arweiniol hon. Mae ei gwaith adnabyddus hyd yn hyn yn cynnwys Enemy at the Gates, The Hours, Johnny English, Die Another Day, Captain Corelli's Mandolin, Bridget Jones' Diary a Pitch Black. Mae hwn yn addo bod yn gyflwyniad cyffrous a llawn gwybodaeth

3:10 Te

3:30 Cyflwyniad gan Fyfyrwyr Athrofa Abertawe
Bydd myfyrwyr o Ysgol Cyfryngau Digidol Athrofa Abertawe yn rhoi cyflwyniad byr o'u gwaith cyfredol, ac yn cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan raddedigion eleni. Rydym yn aros am fwy o wybodaeth am y sesiwn hon.

4:10 Final Fantasies - Cynnydd CGI mewn Animeiddio Japaneaidd
  Mae Jonathan Clements yn awdurdod rhyngwladol ar fanga ac anime Japaneaidd. Bydd ei ddarlith yn SAND 2003 yn cyflwyno hanes byr am gynnydd CGI mewn animeiddio Japaneaidd, gan gynnwys trafodaeth am yr anghytundeb presennol rhwng corfforaethau enfawr a gwneuthurwyr ffilmiau amatur.

5:00 Dangos 'Voices of a Distant Star'
  Ysgrifennwyd ac animeiddiwyd y ffilm hynod brydferth hon gan Makoto Shinkai, sy'n defnyddio cyffyrddiadau celfydd i adrodd stori dau gariad sy'n cael eu rhannu gan ryfel a miliynau o filltiroedd o ofod rhyngserol.

5:35 Araith i Gloi
Bydd Martin Capey, Pennaeth yr Ysgol Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, yn crynhoi'r diwrnod ac yn dweud wrthym beth y gallwn edrych ymlaen ato yn nigwyddiad yfory.

6:00 Dangos 'Malice Doll'
Mae tystysgrif 18 gan y ffilm animeiddiedig hon o Japan.