| |
|
|
Trefnir digwyddiadau SAND gan Athrofa Abertawe |
|
Tachwedd
2003 : Bydd Arweinwyr y Byd Digidol yn creu gwledd o ddanteithion
CGI yn SAND |
Diolch
i bawb a gymerodd ran yn SAND 2003 ac a helpodd i’w
wneud yn gymaint o lwyddiant! Rydym wedi casglu ynghyd
cyfres o luniau a dynnwyd yn ystod y digwyddiad, felly
cliciwch yma i’w gweld.
Os oes gennych unrhyw sylwadau
am SAND 2003 yr hoffech eu rhannu gyda ni, byddem yn hoffi
clywed oddi wrthych. Cliciwch
yma i gyflwyno eich adborth a’ch sylwadau i ni trwy
e-bost. |
Strafagansa
CGI yw SAND 2003 gydag arweinwyr y byd o ran animeiddio
3D, gêmau cyfrifiadurol, VR ac AI yn cyflwyno
eu gwaith mwyaf diweddar a thrafod materion cyfoes.
Mae SAND 2003 hefyd yn fan cyfarfod i weld gwaith
newydd, cyfnewid syniadau a chreu cyfleoedd am brosiectau
newydd. |
| Digwyddiad
animeiddio digidol rhyngwladol mawr ei fri yw SAND
sy'n sefydlu Cymru fel y prif leoliad ar gyfer arwain
y busnes animeiddio. Mae SAND hefyd yn annog cydgyfeirio
animeiddio, CGI a thechnolegau digidol eraill i
greu cynnwys blaengar y gellir ei ddefnyddio'n fasnachol
ar gyfer amrywiaeth o farchnadoedd byd-eang. |
SAND
2003 yw'r 4ydd digwyddiad CGI blynyddol i'w drefnu
gan Athrofa
Abertawe ac unwaith eto fe fydd yn cael ei gynnal
yn Theatr
Taliesin, Abertawe, De Cymru ar 26 - 29 Tachwedd
2003.
Mae SAND estynedig 2003 yn ganlyniad uniongyrchol
o SAND 2002 a ddenodd dros 400 o gwmnïau'r
cyfryngau a selogion o bob rhan o'r byd. |
| Bydd
y trefnwyr yn cynnwys mwy yn nigwyddiad eleni, gyda
diwrnod ychwanegol o gyflwyniadau a gweithdai ymarferol
gan arbenigwyr a dangosiadau o ffilmiau a ffilmiau
byr CGI newydd o bob rhan o'r byd, yn seiliedig
ar ofynion gan gynrychiolwyr a chyflwynwyr. |
| Mae'r
siaradwyr blaenorol yn cynnwys Aardman Animation,
Alias Wavefront, Codemasters, DreamWorks plc, Framestore
cfc, Glassworks Cyf, Industrial Light & Magic,
Jim Henson's Creature Shop, Cynyrchiadau Siriol,
Soho 601 a Sony Computer Entertainment Europe. |
| Mae
SAND 2003 yn bosib o ganlyniad i gefnogaeth Awdurdod
Datblygu Cymru, Sgrîn, Dinas a Sir Abertawe,
KEF, Skillset, Athrofa Abertawe, DMC Athrofa Abertawe
a HEFCW. Diolch hefyd i MASC a Gwesty Morgan's. |
|
| SAND
2003 is principally sponsored by
the WDA and the Welsh Assembly Government
|
|
|

|
Integreiddio
Busnes ar gyfer Gemau IBM
Cyflwyniad gan Rob Smith
|
Final
Fantasies - CGI mewn Animeiddio Japaneaidd
Cyflwyniad gan Jonathan Clements
|
| Bydd
cyflwyniad gan Rob Smith o IBM yn esbonio sut y bydd
gemau ar-lein yn troi'r diwydiant adloniant rhyngweithiol
yn amgylchedd e-fusnes sy'n swyddogaethol gyfoethocach,
sef llif refeniw y dyfodol. Bydd Rob yn amlinellu
datrysiad Integreiddio Busnes ar gyfer Gemau IBM ac
yn trafod meysydd ymchwil a datblygiad ei dîm. |
.....
|
.....
|
|
| Mae
Rob Smith yn rheoli tîm o beirianwyr meddalwedd
IBM sy'n canolbwyntio ar gyflwyno cyfleoedd busnes
newydd i'r diwydiant adloniant rhyngweithiol ar-lein. |
|
|
|
Mae
Jonathan Clements yn awdurdod rhyngwladol ar fanga
ac anime Japaneaidd. Bydd ei ddarlith yn SAND 2003
yn cyflwyno hanes byr o gynnydd CGI mewn animeiddio
Japaneaidd, o'i ddiwrnodau cynnar fel gimig, i'w
ddefnyddiau y tu ôl a'r tu blaen i'r camera
yn y 1990au, hyd at yr anghytundeb presennol rhwng
|
.....
|
.....
|
|
| corfforaethau
enfawr a gwneuthurwyr ffilmiau amatur.Jonathan Clements
yw cyd-awdur y Gwyddoniadur Anime ac mae wedi cyfieithu
dros 70 anime. |
|
|
|
Creu
Perfformiad Credadwy (Defnyddio Maya)
Gweithdy gyda Will Byles
|
Cyflwyniad
i Primal Pictures
|
| Gweithdy
ymarferol a rhyngweithiol dan arweiniad Will Byles, un o
brif animeiddwyr y DU. Gan ddefnyddio meddalwedd animeiddio
Maya 5, bydd Will Byles yn helpu animeiddwyr i greu perfformiadau
credadwy o amrywiaeth o wahanol fodelau yn y gweithdy cynhwysfawr
hwn. Gan ganolbwyntio ar gydwefuso, gwaith camera ac arddulliau
actio, bydd y gweithdy hwn yn galluogi'r cynrychiolwyr i
animeiddio cymeriadau sy'n siarad yn fwy effeithlon ac effeithiol. |
|
|
| Math
newydd o gwmni addysg feddygol yw Primal Pictures sy'n uno
gwybodaeth o ddau faes sy'n ddatblygedig yn dechnegol: graffeg
gyfrifiadurol 3D a thechnolegau delweddu meddygol. Wrth
wraidd menter Primal mae cynhyrchu model graffeg gyfrifiadurol
3D cyflawn cyntaf y byd o'r corff dynol. Bydd siaradwr o
Primal Pictures, sydd wedi'i leoli yng Nghanol Llundain,
yn cyflwyno mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'r cwmni yn ei
wneud yn SAND 2003. |
|
|
|
Actio
i Animeiddwyr
Gweithdy gydag Ed Hooks
|
Cyflwyniad
i Glassworks, Llundain
|
Mae'r
dosbarth meistr hwn yn esbonio, yn ymarferol, strwythur
dweud storïau'n dda a'r cysylltiad rhwng meddyliau,
emosiynau a gweithredoedd."Rydw i wedi bod i lawer
o ddarlithiau a gweithdai a gyflwynwyd gan yr animeiddwyr
a'r athrawon actio gorau a bob amser yn teimlo nad oeddwn
yn cael llawer o fudd ohonynt. Roedd eich cyflwyniad chi
yn hollol i'r gwrthwyneb, ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi
cael gwybodaeth y gallem ei defnyddio o'r diwedd."
|
|
|
Arbenigwyr
animeiddio digidol ac effeithiau sydd wedi'u lleoli yn Soho
yw Glassworks. Mae'r cwmni hwn yn adnabyddus am lygoden
Aero ac ellyll Sprite, ac mae wedi ennill nifer o wobrau'r
diwydiant gan gynnwys gwobr yr Animeiddiad Gorau o ran Hysbyseb
yng Ngwyl Effeithiau ac Animeiddio Llundain (LEAF) eleni
a gwobrau Crefft BTAA am yr Animeiddiad Gorau a'r Animeiddiad
Cyfrifiadurol Gorau (am lygoden Aero).
|
|
|
|
Cipio
Symudiadau yn Artem Digital
Cyflwyniad gan Richard Hince
|
Gorffennol,
Presennol a Dyfodol VR Meddygol
gyda'r Athro Nigel John
|
|
Bydd
Richard Hince, Pennaeth Stiwdio Artem Digital, yn rhoi
cyflwyniad yn nigwyddiad SAND 2003 ar waith y stiwdio
cipio symudiadau blaengar hwn sydd wedi'i leoli yn Perivale,
i'r gorllewin o Lundain. Mae cipio symudiadau wedi esblygu
i fod yn offeryn hyblyg a chost effeithiol dros y blynyddoedd
diwethaf. Gall defnyddio animeiddwyr MoCap bellach gyflawni
animeiddio o ansawdd ac o sylwedd uchel o fewn cyllideb
gymharol fach.
Mae
gan Artem Digital systemau cipio Optegol a Magnetig ac
yn ddiweddar bu yn ymwneud â chynhyrchu gêmau
Sony, 'Getaway' a 'This is Football 2003', ynghyd â
sawl prosiect cipio symudiadau ar gyfer ffilm a theledu,
gan gynnwys cynhyrchiad Eidalaidd o 'Pinocchio' a rhaglen
ddogfen ar 'Valley of the Kings' yr Aifft.
|
|
|
|
Trosolwg
o sut y mae graffeg gyfrifiadurol ddatblygedig a rhith-realiti
ar fin gwneud gwelliant arwyddocaol i amgylchedd gweithio
ymarferydd meddygol. Bydd enghreifftiau ac arddangosiadau'n
cael eu defnyddio yn ystod y cyflwyniad.
Pennaeth Canolfan Ddelweddu Manceinion ym Mhrifysgol Manceinion
yw Nigel W. John.
Mae hefyd yn rheoli Labordy Delweddu Taflunio Ymdrwythol
(Labordy VIP) y Brifysgol - cyfleuster modern iawn ar
gyfer VR a delweddu Perfformiad Uchel. Mae'r Athro John
yn diwtor anrhydeddus yn yr Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol,
Prifysgol Manceinion ac yn ddarlithydd anrhydeddus yn
yr Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, Prifysgol Cymru Abertawe.
|
|
|
|
Rhagarweiniad
i Jester Interactive
Cyflwyniad gan Clark Evans
|
Cyflwyniadau
gan Shelley Page yn SAND 2003
|
| Mae
Jester Interactive yn ddatblygwr adloniant rhyngweithiol
blaengar ar gyfer Playstation a Playstation 2. Bydd Clark
Evans, Cyfarwyddwr Masnachol Jester Interactive, yn egluro
pam bod Jester yn credu ei bod yn werth ailddatblygu yr
hen gêmau clasurol ac yn cyflwyno eu meddalwedd cyffrous,
Music Creation, sydd yn enwog fel un o deitlau mwyaf blaengar
a gwreiddiol Playstation ganddynt. Mae'r cwmni deinamig
hwn wedi ennill nifer o wobrau, yn cyflogi dros 30 o bobl
ac mae wedi'i leoli yn Ngogledd Cymru. |
|
|
|
Dewis
Dreamworks o'r Gwyliau Ewropeaidd
Bydd
Shelley Page, Cynrychiolydd Ewropeaidd DreamWorks Feature
Animation, yn cyflwyno ei dewis o'r gwaith animeiddio
3D newydd gorau o wyliau Ewrop eleni. Mae hwn yn addo
bod yn rholyn sioe cyffrous ac amrywiol.
Anelu
at flas y Diwydiant
|
|
| Bydd
Shelley a Bruce Steele, Cyfarwyddwyr Effeithiau Gweledol
Glassworks yn trafod yr hyn y mae cwmnïau animeiddio
am ei weld gan animeiddwyr ar eu liwt eu hunain a myfyrwyr
sydd am ymuno â'r diwydiant. |
|
|
Cyflwyniad
i Macromedia Flash MX gan John Hill, Dylunydd ar ei liwt ei
hun
|
SAND
2003 - GWEITHDAI
|
'Mae
Flash MX ar flaen y gâd gydag animeiddio a chreu
gwefannau. Mae ei gymwysiadau a'i ddefnyddioldeb ar gyfer
mwy na'r we ac animeiddio'n unig ond ar gyfer fideo, sain,
rhyngweithioldeb ac amlgyfrwng ar gyfer fformatiau lluosog
hefyd.'
'Nod y gweithdy hwn yw cyflwyno animeiddio mewn amgylchedd
sy'n seiliedig ar fector gan ddefnyddio Macromedia Flash
MX. Bydd y cynadleddwyr yn gweithio gan ddefnyddio gwahanol
ddulliau o animeiddio yn Flash ynghyd ag ennill dealltwriaeth
o beth rhaglennu a rhyngweithioldeb sy'n ymwneud â'r
meddalwedd'.
'Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno technegau digidol i animeiddwyr
traddodiadol mewn modd hawdd delio ag ef a chyffrous'.
|
|
Pris
y gweithdai fydd £47 gan gynnwys TAW.
Anfonwch
eich archeb brynu neu siec wedi'i chroesi yn daladwy i SICA
Cyf d/o Y Ganolfan Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, Heol
Townhill, Abertawe SA2 0UT.
Cwblhewch
y ffurflen gofrestru nawr i neilltuo eich lle yn SAND 2003 ac
i neilltuo lle yn unrhyw un o'r gweithdai arbenigol hyn.
Os
ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer SAND 2003 ond wedi
anghofio prynu tocyn ar gyfer y parti rhwydweithio neu heb neilltuo
lle ar gyfer un o'r gweithdai arbenigol, gallwch ddiweddaru
eich cofrestriad drwy glicio
yma.
|
|
|