Cyflwyniad i Glassworks, Llundain
Cyflwyniad i Primal Pictures
Arbenigwyr animeiddio digidol ac effeithiau sydd wedi'u lleoli yn Soho yw Glassworks. Mae'r cwmni hwn yn adnabyddus am lygoden Aero ac ellyll Sprite, ac mae wedi ennill nifer o wobrau'r diwydiant gan gynnwys gwobr yr Animeiddiad Gorau o ran Hysbyseb yng Ngwyl Effeithiau ac Animeiddio Llundain (LEAF) eleni a gwobrau Crefft BTAA am yr Animeiddiad Gorau a'r Animeiddiad Cyfrifiadurol Gorau (am lygoden Aero).

Math newydd o gwmni addysg feddygol yw Primal Pictures sy'n uno gwybodaeth o ddau faes sy'n ddatblygedig yn dechnegol: graffeg gyfrifiadurol 3D a thechnolegau delweddu meddygol. Wrth wraidd menter Primal mae cynhyrchu model graffeg gyfrifiadurol 3D cyflawn cyntaf y byd o'r corff dynol. Bydd siaradwr o Primal Pictures, sydd wedi'i leoli yng Nghanol Llundain, yn cyflwyno mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'r cwmni yn ei wneud yn SAND 2003.
Gorffennol, Presennol a Dyfodol VR Meddygol gyda'r Athro Nigel John
Trosolwg o sut y mae graffeg gyfrifiadurol ddatblygedig a rhith-realiti ar fin gwneud gwelliant arwyddocaol i amgylchedd gweithio ymarferydd meddygol. Bydd enghreifftiau ac arddangosiadau'n cael eu defnyddio yn ystod y cyflwyniad.

Pennaeth Canolfan Ddelweddu Manceinion ym Mhrifysgol Manceinion yw Nigel W. John.

Mae hefyd yn rheoli Labordy Delweddu Taflunio Ymdrwythol (Labordy VIP) y Brifysgol - cyfleuster modern iawn ar gyfer VR a delweddu Perfformiad Uchel. Mae'r Athro John yn diwtor anrhydeddus yn yr Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, Prifysgol Manceinion ac yn ddarlithydd anrhydeddus yn yr Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, Prifysgol Cymru Abertawe.

O ganlyniad i gefnogaeth hael gan ein noddwyr, mae prif ddyddiau'r gynhadledd am ddim.