Creu Perfformiad Credadwy (Defnyddio Maya)
Gweithdy gyda Will Byles
Actio i Animeiddwyr
Gweithdy gydag Ed Hooks
Gweithdy ymarferol a rhyngweithiol dan arweiniad Will Byles, un o brif animeiddwyr y DU. Gan ddefnyddio meddalwedd animeiddio Maya 5, bydd Will Byles yn helpu animeiddwyr i greu perfformiadau credadwy o amrywiaeth o wahanol fodelau yn y gweithdy cynhwysfawr hwn. Gan ganolbwyntio ar gydwefuso, gwaith camera ac arddulliau actio, bydd y gweithdy hwn yn galluogi'r cynrychiolwyr i animeiddio cymeriadau sy'n siarad yn fwy effeithlon ac effeithiol.

 
Mae'r dosbarth meistr hwn yn esbonio, yn ymarferol, strwythur dweud storïau'n dda a'r cysylltiad rhwng meddyliau, emosiynau a gweithredoedd."Rydw i wedi bod i lawer o ddarlithiau a gweithdai a gyflwynwyd gan yr animeiddwyr a'r athrawon actio gorau a bob amser yn teimlo nad oeddwn yn cael llawer o fudd ohonynt. Roedd eich cyflwyniad chi yn hollol i'r gwrthwyneb, ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael gwybodaeth y gallem ei defnyddio o'r diwedd."
Cyflwyniad i Macromedia Flash MX gan John Hill, Dylunydd ar ei liwt ei hun
SAND 2003 - GWEITHDAI
'Mae Flash MX ar flaen y gâd gydag animeiddio a chreu gwefannau. Mae ei gymwysiadau a'i ddefnyddioldeb ar gyfer mwy na'r we ac animeiddio'n unig ond ar gyfer fideo, sain, rhyngweithioldeb ac amlgyfrwng ar gyfer fformatiau lluosog hefyd.'
Nod y gweithdy hwn yw cyflwyno animeiddio mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar fector gan ddefnyddio Macromedia Flash MX. Bydd y cynadleddwyr yn gweithio gan ddefnyddio gwahanol ddulliau o animeiddio yn Flash ynghyd ag ennill dealltwriaeth o beth rhaglennu a rhyngweithioldeb sy'n ymwneud â'r meddalwedd.
'Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno technegau digidol i animeiddwyr traddodiadol mewn modd hawdd delio ag ef a chyffrous'.

Pris y gweithdai fydd £47 gan gynnwys TAW.

Anfonwch eich archeb brynu neu siec wedi'i chroesi yn daladwy i SICA Cyf d/o Y Ganolfan Cyfryngau Digidol, Athrofa Abertawe, Heol Townhill, Abertawe SA2 0UT.

Cwblhewch y ffurflen gofrestru nawr i neilltuo eich lle yn SAND 2003 ac i neilltuo lle yn unrhyw un o'r gweithdai arbenigol hyn.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer SAND 2003 ond wedi anghofio prynu tocyn ar gyfer y parti rhwydweithio neu heb neilltuo lle ar gyfer un o'r gweithdai arbenigol, gallwch ddiweddaru eich cofrestriad drwy glicio yma.